Rhif y ddeiseb: P-06-1375

Teitl y ddeiseb: Cynnal etholiad Senedd yn gynnar

Geiriad y ddeiseb: Ar ôl i Mark Drakeford a’i blaid Lafur barhau i fethu, rydym yn gofyn am etholiad cynnar er mwyn inni gael cyfle i bleidleisio am blaid lywodraethu newydd yng Nghymru. Ymhlith methiannau Llafur Cymru mae’r ffordd y maent wedi ymdrin â’r pandemig covid, yn rheoli systemau addysg alwedigaethol Cymru a hefyd eu methiant diweddaraf: y terfynau cyflymder 20mya newydd sy’n cael eu cyflwyno yng Nghymru. Mae economi Cymru yn methu ac mae angen newid. Mae’n bryd inni gael arweinydd newydd yn y Senedd.

 

 


1.        Y cefndir

1.1.            Etholiadau cyffredinol arferol

Mae adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu ar gyfer cynnal etholiadau cyffredinol ‘arferol’ ar gyfer y Senedd ar y dydd Iau cyntaf ym mis Mai bob pum mlynedd galendr.

Ceir gwaharddiad rhag cynnal etholiad cyffredinol arferol ar yr un diwrnod ag etholiad cyffredinol seneddol y DU, ac felly rhoddir pŵer i Weinidogion Cymru amrywio dyddiad etholiad cyffredinol y Senedd er mwyn osgoi gwrthdaro o’r fath.

Mae gan Lywydd y Senedd bŵer o dan hefyd o dan adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru i amrywio dyddiad etholiad cyffredinol arferol hyd at fis cyn y dydd Iau cyntaf ym mis Mai, neu fis ar ei ôl.

Byddai Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), sy’n destun craffu cyfnod un yn y Senedd ar hyn o bryd, yn lleihau’r amser rhwng etholiadau cyffredinol arferol y Senedd o bum mlynedd i bedair blynedd.

 

1.2.          Etholiadau cyffredinol eithriadol

Fel y nodir yn adran 5 o Ddeddf Llywodraeth Cymru, ceir cynnal etholiadau cyffredinol ‘eithriadol’ ar gyfer y Senedd mewn dwy sefyllfa:

·         Os digwydd bod o leiaf dwy ran o dair o gyfanswm yr Aelodau yn pleidleisio o blaid cynnig i ddiddymu’r Senedd; neu

·         Os digwydd bod y Senedd yn methu penodi Prif Weinidog o fewn 28 diwrnod ar ôl cynnal etholiad cyffredinol neu y daw swydd Prif Weinidog Cymru yn wag (er enghraifft, drwy benderfyniad diffyg hyder yn y Prif Weinidog gan y Senedd neu os yw’r Prif Weinidog yn ymddiswyddo).

Pe bai’r naill sefyllfa neu’r llall yn codi, byddai’n ofynnol i’r Llywydd gynnig diwrnod ar gyfer cynnal etholiad cyffredinol eithriadol.

Os caiff etholiad cyffredinol eithriadol ei gynnal o fewn chwe mis i'r etholiad cyffredinol arferol nesaf sydd wedi’i drefnu, ni fyddai angen cynnal yr etholiad cyffredinol arferol hwnnw. Er enghraifft, pe bai etholiad cyffredinol eithriadol yn cael ei gynnal ar ôl 7 Tachwedd 2025, ni fyddai’r etholiad cyffredinol arferol nesaf ddydd Iau 7 Mai 2026 yn cael ei gynnal.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.